Y lleoliad perffaith ar gyfer diwrnod perffaith ...Plas Isaf yw'r lleoliad perffaith i ddathlu eich diwrnod arbennig. Rydym yn cynnig popeth rydych ei angen ar gyfer y diwrnod perffaith. Rydym yn sylweddoli mae diwrnod eich priodas yw'r diwrnod mwyaf cyffrous eich bywyd ac mae angen cynllunio a threfnu gofalus. Ym Mhlas Isaf byddwn yn gwneud ein gorau glas i'ch helpu a'ch cynghori gyda'ch holl anghenion unigol. Cynhelir eich gwledd briodas yn y ’sgubor rhestredig sy’n dyddio o’r ail ganrif ar bymtheg. Cadwyd holl nodweddion gwreiddiol y ’sgubor i sicrhau awyrgylch unigryw. Mae gennych y dewis o gynnal eich brecwast priodas yn brif neuadd yr ysgubor neu yn y babell fawr sydd wedi ei leoli nesaf ir sgubor sy'n edrych dros cefn gwlad. BarnMae’r ’sgubor yn llawn cymeriad a hanes, gyda’r trawstiau derw mawr i’w gweld yn y prif neuadd ac ardal y bar. Gallwn ddarparu hyd at 120 o westeion yn eistedd yn yr ysgubor. MarqueeYnghlwm wrth yr ysgubor mae’r babell, sydd yn rhoi'r dewis ar gyfer rhifau mwy, hyd at 300. Gyda chandeliers gwych a leinin gwyn, mae’n gefndir plaen perffaith ar gyfer eich thema. Mae'r babell yn mesur 80 troedfedd wrth 40 troedfedd ac mae wedi'i leinio llawn â chandeliers. Seremoni SifilRydym yn falch iawn o gyhoeddi fod Plas Isaf yn lleoliad cymeradwy ar gyfer priodasau, a seremoni partneriaeth sifil. Gall parau gynnal eu seremoni priodas yn y ’sgubor. Mae hwn yn ddewis poblogaidd iawn, sy’n cynnig harddwch a rhamant priodas ffurfiol mewn amgylchedd mor drawiadol wrth gerdded i lawr yr eil llawr llechi neu ar garped coch. Rydym yn gallu eistedd 150 ar gyfer y seremoni. GerddiFel rhan o'n cyfleusterau ym Mhlas Isaf rydym yn falch iawn o gynnig y defnydd unigryw i chi a’ch gwesteion mwynhau gerddi, gyda’r borderi lliwgar a’r bwâu addurniadol. Mae’r ffownten ddŵr yn creu cefndir delfrydol i’ch lluniau priodas, a gall eich gwesteion ymlacio dros ddiod a mwynhau amser yng nghwmni ei gilydd, sy’n gwneud y diwrnod hyd yn oed yn fwy arbennig. Bwyd a GwinMae gan ein cogydd Wendy brofiad helaeth a bydd yn creu bwydlenni ar gyfer eich priodas a fydd o safon uchel. Cymerwch olwg ar ein bwydlenni sampl. Rydym bob amser ar gael i drafod bwydlenni neu unrhyw ofynion dietegol gallwch chi neu eich gwesteion gael. Ein nod yw bod mor hyblyg ag y bo modd gyda’r bwydlenni. Gallwn newid a theilwra’r bwydlenni i fodloni eich gofynion unigol chi. Rydym yn hynod o lwcus ein bod mewn ardal â chyfoeth o gynnyrch lleol o’r radd flaenaf. Os ydych chi’n dymuno trafod dewisiadau eraill ar gyfer eich bwydlen, bydd ein prif gogydd yn fwy na bodlon llunio pecyn wedi’i deilwra i weddu i’ch gofynion chi. Gallwn hefyd helpu gyda dewis y diodydd perffaith i gyd-fynd gyda eich dewis o fwyd. Mae Plas Isaf wedi'i drwyddedu yn llawn ac wedi gweithio'n agos gyda Tanners Wine Merchants o’r Amwythig (a sefydlwyd ers 1842) i stocio ein seler gyda'r gwinoedd a chwrw gorau. Gweler ein rhestr gwin. LletyI wneud eich diwrnod yn gyflawn rydym yn cynnig ddefnydd unigryw o'r ysgubor a'r gerddi, ac os ydych yn penderfynu cynnal eich priodas gyda ni byddwn yn rhoi yr ystafell briodasol yn cynnwys gwely mawr pedwar postyn i chi ar gyfer eich noson priodas fel anrheg, mae gennym hefyd llety ar gyfer eich gwesteion. Rydym yn fwy na pharod i deilwra eich diwrnod ar gyfer eich gofynion eich hun. Gan ein bod yn fusnes teuluol bychan gallwn gynnig yr hyblygrwydd i chi drefnu diwrnod unigol. Ein nod yw gwneud trefniadau eich diwrnod priodas mor hamddenol a phersonol ag y bo modd. Llenwch y dudalen ymholiadau, a byddwn yn anfon llyfryn priodas. Ar ôl i chi ei dderbyn, gallwn drefnu apwyntiad i chi ddod allan ac ymweld â ni yma ym Mhlas Isaf. Plas Isaf yw'r lleoliad perffaith ar gyfer eich priodas ynghyd â'r defnydd unigryw o'r ysgubor a'r gerddi a gyda chymorth ac ymroddiad ein tîm teuluol gwneir pob ymdrech i sicrhau y bydd eich priodas y diwrnod mwyaf cofiadwy eich bywyd. Y lleoliad perffaith ar gyfer diwrnod perffaith ... |
Beth sydd ymlaen?Min Nos Agored 5ed Medi 5yh-8yh Cyfle i gael golwg oamgylch yr ysgubor. Byddwn ni yma i'ch dangos ogwmpas ac ateb unrhyw gwesiynnau sydd ganddych. |