Plas Isaf - Exclusive Wedding and Party Venue Plas Isaf - Country Barns & Gardens Click here to contact us Cymraeg
Plas Isaf - Wedding and Party Venue Plas Isaf - Wedding and Party Venue Plas Isaf - Wedding and Party Venue Plas Isaf - Wedding and Party Venue Plas Isaf - Wedding and Party Venue Plas Isaf - Wedding and Party Venue

lleoliad a wnaed ar gyfer dathliadau...

Partion & Dathliadau

P’un ai ydych chi’n trefnu parti i ddathlu pen-blwydd, pen-blwydd priodas, dyweddiad neu fedydd, rydym ni yma i’ch cynorthwyo gyda threfnu eich achlysur arbennig.  Mae gennym gyfleusterau ar gyfer niferoedd mawr a phartïon bach dethol yn y ’sgubor, ac mae’r dewis o ddefnyddio’r marquee ar gyfer dathliadau mwy o faint. Y lleoliad perffaith ar gyfer digwyddiadau elusennol neu dawns.

Mae Plas Isaf yn cynnig cyfleusterau rhagorol ac amgylchedd unigryw sy’n ei wneud yn lleoliad perffaith ar gyfer unrhyw achlysur arbennig.  Mae croeso i chi gysylltu gyda ni i drafod eich gofynion, ac rydym yn addo na chewch chi eich siomi wrth ddewis y lleoliad hwn. Cliciwch yma i weld sampl ein bwydlen parti.

Nosweithiau Parti Nadolig

Ydych chi'n chwilio am leoliad ar gyfer eich parti Nadolig, ar gyfer gwaith neu ar gyfer ffrindiau, mae ein Nosweithiau Parti yn ffordd wych i ddathlu'r Nadolig. Mwynhewch pryd tri chwrs, DJ a dawnsio tan yn hwyr.

Cyfarfodydd a Chynadleddau

Plas Isaf yw’r lleoliad delfrydol ar gyfer cynnal cyfarfodydd, cynadleddau a diwrnodau hyfforddiant.  Mae’r ’Sgubor yn llawn naws a chymeriad, ac mae’r lleoliad heddychlon yn cynnig tawelwch, a phreifatrwydd llwyr wrth gwrs.  Mae’n berffaith ar gyfer cyfarfodydd bach yn ogystal â rhai mawr.  Mae mynediad a chyfleusterau i’r anabl drwy’r adeilad cyfan.  Mae digonedd o le parcio hefyd.

Gellir trafod eich gofynion penodol chi ac fe wnawn ein gorau glas i ddarparu yn union beth sydd ei angen arnoch er mwyn i chi fedru cynnal eich cyfarfod neu’ch cynhadledd yn ddidrafferth. 

 
Beth sydd ymlaen?

Min Nos Agored 5ed Medi 5yh-8yh

Cyfle i gael golwg oamgylch yr ysgubor. Byddwn ni yma i'ch dangos ogwmpas ac ateb unrhyw gwesiynnau sydd ganddych. 

...read more

Hafan | Amdanom Ni | Priodas | Digwyddiadau | Bwyd a Diod | Gwasanaethau | Llythrau Diolch | Oriel |
Llety | FAQs | Cysylltwch a ni

 

© 2015 Plas Isaf. Cedwir pob hawl. Map o'r wefan | Dogfennau Defnyddiol

Plas Isaf, Corwen, Denbighshire, LL21 0EW
T: 01490 412 486

Site by Notcon