Plas Isaf - Exclusive Wedding and Party Venue Plas Isaf - Country Barns & Gardens Click here to contact us Cymraeg
Plas Isaf - Wedding and Party Venue Plas Isaf - Wedding and Party Venue Plas Isaf - Wedding and Party Venue Plas Isaf - Wedding and Party Venue Plas Isaf - Wedding and Party Venue Plas Isaf - Wedding and Party Venue

Busnes  teuluol...

Mae Plas Isaf yn lleoliad unigryw lle gallwch gynnal y digwyddiad perffaith, boed yn briodas neu barti. Mae’r ysgubor unigryw yng nghanol cefn gwlad Cymru wedi cael ei adnewyddu i'r safon uchaf.

Wrth i chi gerdded i mewn i'r ysgubor byddwch yn cael eich ysbrydoli wrth edrych ar y trawstiau derw, waliau cerrig a lloriau llechen. Perffaith ar gyfer dathliad agos neu barti rhyfeddol. Mae'r lleoliad yn hyblyg gyda'r ysgubor a'r babell yn eistedd nesaf at ei gilydd ac mae'r lle agored tu allan yn eang gyda seddi a gerddi prydferth.

Mae Ysgubor Wledig a Gerddi Plas Isaf wedi cael ei ddatblygu fel rhan fferm teulu Jones. Mae’r lleoliad priodas a parti unigryw yma yn cael ei redeg gan Helen a Liza gyda'r teulu i gyd yn helpu allan a thîm llawn o staff hyfforddedig profiadol.

Fferm deuluol organig yw Plas Isaf efo 540 hectar o dir, a bu yn y teulu ers dechrau’r 1950au. Mae’r fferm gyfan yn rhan o gynllun amgylcheddol sy’n gwarchod cynefinoedd a choedwigoedd.

Yn 2005 penderfynodd y teulu arallgyfeirio ar ôl sylwi ar fwlch yn y farchnad ar gyfer lleoliad a allai gynnig pecynnau priodas unigryw, cynadleddau a phartion.  Roeddynt o’r farn mai’r ’sgubor wreiddiol yn y buarth, gyda’i thrawstiau derw a lloriau llechen, oedd y lleoliad delfrydol.  Defnyddiwyd y ’sgubor, sy’n adeilad rhestredig Gradd II, at nifer o ddibenion dros y blynyddoedd.  Bellach cafodd ei adfer i’w odidogrwydd gwreiddiol ac mae’n cynnig lleoliad rhagorol ac unigryw ar gyfer ystod eang o ddigwyddiadau.

Plas Isaf yw’r man delfrydol i ddianc rhag rhuthr bywyd bob dydd ac ymlacio yng nghefn gwlad godidog Cymru.  Bydd y busnes teuluol hwn yn rhoi bob sylw i’ch gofynion chi, p’un ai ydych chi’n trefnu parti i’r teulu, cyfarfod. digwyddiad corfforaethol neu ddiwrnod priodas arbennig iawn. Mae’r teulu’n ymfalchïo eu bod yn cydweithio’n agos gyda’u cwsmeriaid, gan rannu eu profiad helaeth yn y maes hwn.  Gyda chymorth eu tîm o staff ymroddgar gallant ddarparu gwasanaeth personol a hyblyg, a chyfleusterau at eich defnydd chi yn unig.

Busnes  teuluol...

 
Beth sydd ymlaen?

Min Nos Agored 5ed Medi 5yh-8yh

Cyfle i gael golwg oamgylch yr ysgubor. Byddwn ni yma i'ch dangos ogwmpas ac ateb unrhyw gwesiynnau sydd ganddych. 

...read more

Hafan | Amdanom Ni | Priodas | Digwyddiadau | Bwyd a Diod | Gwasanaethau | Llythrau Diolch | Oriel |
Llety | FAQs | Cysylltwch a ni

 

© 2015 Plas Isaf. Cedwir pob hawl. Map o'r wefan | Dogfennau Defnyddiol

Plas Isaf, Corwen, Denbighshire, LL21 0EW
T: 01490 412 486

Site by Notcon